Skip to the content
Choose your content
UK NI Scotland Wales

Join us Login Forum Media enquiries
Choose your content
UK NI Scotland Wales

Swyddog Gwybodaeth a Chyngor (Cymru)

  • Cyflog: £21,244 (28 awr yr wythnos)
  • Lleoliad: Gofalwyr Cymru, Uned 5 Ynys Bridge Court, Caerdydd, CF15 9SS / Gweithio hybrid
  • Math o swydd: Rhan-amser - 28 awr yr wythnos (dydd Llun i ddydd Iau os yn bosib)/ Contract Tymor Penodol tan fis Mawrth 2025, gyda’r posibiliad o estyniad yn dibynnu ar gyllid
  • Dyddiad cau: Dydd Mawrth 9 Mai 2023
  • Dyddiad y cyfweliad: Dydd Mawrth 16 Mai 2023

Mae hon yn rôl gyffrous i rywun sydd eisoes yn gweithio ym maes gwybodaeth a chyngor. Bydd gennych rôl bwysig mewn darparu a chynhyrchu gwybodaeth a chyngor Gofalwyr Cymru, gan gynnwys cynnwys digidol ac adnoddau gwybodaeth ar gyfer gofalwyr a chynulleidfaoedd eraill, fel y rheini sy'n derbyn gofal a chyflogwyr.

Bydd gennych yr wybodaeth ddiweddaraf a phrofiad diweddar o ddarparu gwybodaeth a chyngor, ac yn barod i ddatblygu eich gwybodaeth ymhellach i ddarparu'r gefnogaeth orau bosib i ofalwyr di-dâl.

Byddwch yn gweithredu fel y prif bwynt cyswllt i bobl sy'n cysylltu â ni er mwyn cael gwybodaeth a chyngor. Bydd gennych ddealltwriaeth drylwyr o'r materion sy'n ymwneud â gweithio â phobl fregus, gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i ymgysylltu'n broffesiynol ac yn hyderus â gofalwyr wyneb yn wyneb, ar y ffôn neu drwy e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol.

Amrywiaeth a chynhwysiant

Mae Carers UK wedi ymrwymo i fod yn sefydliad amrywiol a hollol gynhwysol. Rydym yn ymdrechu i greu gweithle lle gall ein cydweithwyr a'n gwirfoddolwyr fod yn nhw eu hunain a theimlo fel eu bod yn perthyn, ac yn ceisio sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed yn gyson.

Er mwyn cofleidio'r diwylliant hwn o amrywiaeth, dylai ein gweithwyr a'n gwirfoddolwyr adlewyrchu ein rhanddeiliaid a'r gymdeithas rydym yn ei gwasanaethu a'i chefnogi, waeth beth fo'u hoedran, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, galluoedd corfforol, anableddau neu arferion crefyddol. Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth unigolion, ac rydym wrthi'n adeiladu timau amrywiol yma yn Carers UK, ac yn gwerthfawrogi ein cydweithwyr o ystod eang o gefndiroedd.

Fel elusen aelodaeth i ofalwyr, rydym yn chwilio'n benodol am weithwyr a gwirfoddolwyr sydd â dealltwriaeth go iawn o'r materion mae gofalwyr yn eu hwynebu. Gellir gwneud addasiadau rhesymol i'r broses a'r rôl, yn dibynnu ar anghenion yr ymgeisydd.   

Sut i wneud cais

Darllenwch y manylion isod i gael gwybod sut i wneud cais. Yn Carers UK, rydym eisiau i'n proses ymgeisio fod mor hygyrch â phosibl. Os oes angen unrhyw addasiadau arnoch i wneud cais, anfonwch e-bost at y tîm recriwtio i drafod.  

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mawrth 9 Mai 2023

Cynhelir y cyfweliadau cyntaf dydd Mawrth 16 Mai 2023

Dylid e-bostio datganiad personol (dim mwy na 2 ochr o bapur A4), CV, ffurflen manylion personol a ffurflen fonitro wedi'i chwblhau i recruitment@carersuk.org.  Bydd yr wybodaeth ar y ffurflen monitro amrywiaeth yn cael ei thrin yn gyfrinachol, ac yn cael ei defnyddio at ddibenion ystadegol yn unig.

Mae Carers UK yn sicrhau bod pob cais yn ddienw cyn cyrraedd y rhestr fer.

Mae Carers UK yn cadw'r hawl i benodi ar unrhyw adeg, pe bai ymgeisydd rhagorol yn dod i'r amlwg

Efallai y bydd Carers UK yn gwirio ymgeiswyr ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol cyn bod cynnig ffurfiol yn cael ei wneud

Back to top